Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
19 Medi 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13485
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.34
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Dur
Dechreuodd yr eitem am 14.53
4 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Dechreuodd yr eitem am 15.53
5 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dechreuodd yr eitem am 16.47
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diweddariad ar Cenedl Noddfa
Dechreuodd yr eitem am 17.45
7 Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023
Dechreuodd yr eitem am 18.19
NDM8351 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mehefin 2023.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 18.30
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8352 Lee Waters (Llanelli)
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
14 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
9 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.33
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 18.35
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 20 Medi 2023